Wilbur LloydROBERTSYn dawel, ar yr 16ed Medi, yng nghartref Allt-y-Mynydd, hunodd Parch Wilbur Lloyd Roberts, Rhiw'r Dorth, Llandeilo. Mab annwyl y diweddar Ann Ceinwen ac Idwal gynt o Flaenau Ffestiniog. Gwr cariadus y diweddar Alma, brawd gofalus Hubert, Ewythr heb ei ail ac hen ewythr annwyl iawn. Cyfaill mynwesol i lawer. Gwasanaeth preifat yn y cartref yn Rhiw'r Dorth fore'r 25ain Medi ac yn gyhoeddus ym mynwent Eglwys San Ioan, Maesteilo i ddilyn am 11:30y bore. Blodau teulu yn unig ond gellid rhoi cyfraniad at elusen o'i ddewis drwy law Ymgymerwyr D Wynne Evans a'i Feibion,101 Heol Penygroes, Blaenau Rhydaman SA18 3DQ.
Keep me informed of updates